Mae teithwyr sy’n brwydro i gael aros ar un o feysydd anghyfreithlon mwyaf Prydain, yn Dale Farm ger Basildon, Essex, wedi ennill rownd ddiweddaraf eu brwydr gyfreithiol heddiw.

Penderfynnodd y barnwr fod hawl gan breswylwyr Dale Farm ger Basildon yn Essex gael estyniad ar y gwaharddeb sy’n atal y Cyngor rhag eu symud o’r safle nes bod y llys wedi penderfynu ar gyfreithlondeb y bwriad i’w symud.

Mae’r penderfyniad yn ergyd arall i Gyngor Basildon sydd wedi brwydro am  10 mlynedd i symud y preswylwyr yn Dale Farm, ar gost o bron i £18 miliwn.

Dydd Llun diwethaf, fe ganiatawyd gwaharddiad dros dro oedd yn atal y Cyngor rhag clirio’r maes – sy’n cynnal bron i 80 o deuluoedd, gyda 400 o bobol i gyd – nes bod y llys yn gwneud eu penderfyniad ar y mater heddiw.

Ond heddiw, dywedodd y barnwr yn Uchel Lys Llundain bod “materion dadleuol yn perthyn i bron bob un o’r adeiladau” ynglŷn â bwriad y Cyngor i’w symud o’r tir.

Dywedoddd y barnwr y byddai’n rhaid cael gwrandawiad llys arall er mwyn datrys y ffeithiau, gyda phwyslais yn cael ei roi ar pryd y cafodd bob un o’r setliadau ar y maes eu creu.

Her cyfreithiol

Mae gan y teithwyr her cyfreithiol arall i’w roi gerbron Cyngor Basildon, sy’n debygol o olygu rhagor o oedi wrth ddatrys y sefyllfa.

Maen nhw’n gobeithio sicrhau adolygiad barnwrol ar y sail bod eu symud o’r tir yn “anghymesur” dan y ddeddf hawliau dynol.

Neithiwr, galwodd cefnogwyr y teithwyr ar Gyngor Basildon i “ddychwelyd i’r bwrdd trafod”, gan ddweud y bydd mynnu parhau â’r achos cyfreithiol yn gwneud dim ond cynyddu eu costau.

Maen nhw wedi gyrru neges bersonol i arweinydd y cyngor, Tony Ball, i ymuno â nhw i drafod ymhellach.

Yn ôl Kate O’Shea, o’r grŵp ‘Dale Farm Solidarity’, mae angen “agwedd synhwyrol at y sefyllfa yn Dale Farm, ac rydyn ni’n galw ar bob un ochr i ddefnyddio’r oedi yma i ddod o hyd i ateb cyfeillgar.

“Mae’r Cenhedloedd Unedig, a dau offeiriad lleol wedi cynnig bod yn gyfrwng i’r trafodaethau os bydd angen, ac rydyn ni’n annog Tony Ball i dderbyn y cynig.”