Mae bachgen 15 oed o Syria, a ddioddefodd ymosodiad mewn ysgol yn Swydd Efrog, wedi dweud nad yw’n teimlo’n “ddiogel” wrth barhau â’i addysg yno.
Mae disgwyl i fachgen 16 oed ymddangos gerbron llys mewn cysylltiad â’r ymosodiad yn Almondbury Community School, Huddersfield fis diwethaf (Hydref 25).
Mae’r digwyddiad yn dal i gael ei rannu’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n dangos y dioddefwr, sydd eisoes a’i fraich mewn sling, yn cael ei daflu i’r llawr a’i fygwth.
“Fe wnes i ddihuno ynghanol y nos neithiwr yn crïo am y broblem,” meddai’r dioddefwr ar ITV News. “Maen nhw’n meddwl fy mod i’n wahanol – yn wahanol iddyn nhw.
“Dydw i ddim yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol. Ambell waith dw i’n dweud wrth fy nhad, ‘Dydw i ddim eisiau mynd i’r ysgol rhagor’.
“Roeddwn i jyst yn crïo a dw i ddim wedi gwneud dim o’i le oherwydd dw i’n parchu rheolau’r ysgol.”
‘Dim bwlio’
Mewn datganiad ysgrifenedig i bapur The Sun Online, mae’r bachgen 16 oed, sydd wedi cael ei holi gan yr heddlu, yn dweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd.
Er hyn, mae’n gwadu bwlio’r dioddefwr, gan ddweud bod y ddau wedi bod ar “delerau da” cyn y digwyddiad.
“Roedd y digwyddiad wedi’i ynysu, ac wedi digwydd oherwydd ffrae rhyngon ni yn gynharach yn y dydd,” meddai’r datganiad.
“Doedd y digwyddiad ddim wedi’i ysgogi gan hiliaeth, oherwydd tan yr adeg honno roeddwn ni ar delerau da.”