Mae arweinydd plaid y DUP wedi cynghori Theresa May i beidio â “gwastraffu amser” ar ei chytundeb, ac i chwilio am ddatrysiad gwahanol i’r ffin yng Ngogledd Iwerddon.

Gan gadarnhau unwaith yn rhagor na fydd ei phlaid yn cefnogi’r cytundeb Brexit yn ystod y bleidlais ym mis Rhagfyr, dywed Arlene Foster fod angen i Brif Weinidog Prydain chwilio am “well gytundeb”.

Ychwanega y byddai’r cytundeb yn ei ffurf bresennol yn creu “diffyg democrataidd enfawr” yng Ngogledd Iwerddon, gan gyflwyno rheolau nad oes gan wleidyddion y wlad reolaeth drostyn nhw.

“Mae’r holl bethau a’n hysgogodd ni i bleidleisio o blaid Brexit yn bethau sy’n mynd i gael eu gorfodi ar Ogledd Iwerddon,” meddai’r arweinydd.

Amddiffyn y cytundeb

Yn y cyfamser, mae disgwyl i Theresa May ymddangos gerbron pwyllgor o Aelodau Seneddol heddiw (dydd Iau, Tachwedd 29), gan wynebu cwestiynau ynglŷn a’i chytundeb Brexit.

Daw’r cyfarfod yn sgil cyhoeddiad gan Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrew Leadsom, sy’n aelod blaenllaw o’r garfan o blaid Brexit, ei bod hi’n cefnogi cytundeb y Prif Weinidog.

Dywedodd mai cytundeb Theresa May yw’r unig gytundeb sydd ar y bwrdd, a’i fod yn sicrhau bod gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd fis Mawrth nesaf.