Mae Undeb Gweithwyr Annibynnol Prydain (IWGB), wedi datgan ei fod yn amddiffyn ymfudwyr sy’n gweithio yng ngwledydd Prydain ac yn cefnogi pleidlais y bobol ar fater Brexit.
Mae’n dweud hynny er mwyn ceisio gwarchod hawliau cyflogaeth sydd wedi cael eu cyflwyno o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, fel sicrhau tâl gwyliau a rheolau rhag gwahaniaethu yn y gweithle.
Dywed yr undeb hefyd bod y gweithwyr o’r gallu i symud yn rhydd ar y cyfandir, ac y gallai’r bobol hyn gael eu heffeithio’n wael gan unrhyw “sioc economaidd” o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Pleidlais y Bobol
“Fe fu’n rhaid i’r gweithwyr mudol a bregus hyn “frwydro’n wrth ddaint a gewyn er mwyn ennill yr hawliau a’r urddas mwyaf sylfaenol yn eu gwaithm” meddai Henry Chango Lopez, llywydd undeb IWGB.
“Byddai colli cyfraith cyflogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod yn colli arf hanfodol yn erbyn penaethiaid sy’n ecsbloetio.
“Mae angen pleidlais y bobol,” meddai, “yn enwedig y rheiny sydd ar waelod y domen.”