Mae’r cyn-Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab wedi lladd ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May a’i chyhuddo o fethu â gwrthsefyll ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd i’w bwlio tros gytundeb Brexit.
Camodd Dominic Raab o’r neilltu ddydd Iau, gan ddweud na allai dderbyn telerau’r cytundeb.
Ac mae’n dweud wrth y Sunday Times y dylai Prydain fynnu cytundeb sy’n galluogi ymadawiad o’r undeb tollau ar bob cyfri.
Mae’r sefyllfa, yn ôl dau bôl piniwn, wedi rhoi Llafur ar y blaen i’r Ceidwadwyr pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal.
Mae’r dyfalu’n parhau y gallai’r Ceidwadwyr anfodlon gyflwyno llythyron er mwyn gorfodi pleidlais o ddiffyg hyder yn Theresa May.
‘Mae angen bod yn onest iawn â’r wlad’
“Os na allwn ni gau’r cytundeb hwn ar delerau rhesymol, mae angen i ni fod yn onest iawn â’r wlad na chawn ni mo’n llwgrwobrwyo na’n blacmelio na’n bwlio, ac y byddwn ni’n cerdded i ffwrdd,” meddai Dominic Raab wrth y Sunday Times.
“Dw i’n credu bod un peth ar goll, sef ewyllys a phenderfyniad gwleidyddol. Dw i ddim yn sicr fod y neges erioed wedi glanio.”
Ar ôl i Dominic Raab ymddiswyddo, cymerodd Steve Barclay ei le yn y Cabinet, ond gyda llai o gyfrifoldebau.
Ac mae’r cyn-Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd bellach wedi cymryd lle’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Esther McVey, sydd hefyd wedi ymddiswyddo yn sgil yr helynt.