Mae Grwp Bancio Lloyds wedi cyhoeddi y bydd 6,240 o swyddi yn mynd, fel rhan o “chwyldro digidol”.

Mae’r banc a’r benthycwr ar y stryd fawr yn dweud y byddan nhw hefyd yn creu 8,240 o swyddi newydd.

Fe fydd tri chwarter y swyddi newydd yn cael eu llenwi gan staff presennol, meddai Lloyds, ond fe fydd rhai swyddi arbenigol ar gyfer gwyddonwyr data a pheirianwyr meddalwedd, yn cael eu llenwi trwy gyflogi pobol o’r tu allan.

Swyddfeydd – ac nid canghennau o’r banciau – fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau, medden nhw wedyn.

Ond fe fydd safle mawr y banc yn Gillingham yn cau o ganlyniadau i’r cynllun diweddaraf.