Bydd cannoedd yn fwy o heddweision yn cerdded strydoedd Llundain yn ystod yr wythnosau nesaf, yn dilyn pedair llofruddiaeth yn y ddinas yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Stuart Cundy, pennaeth yr heddlu Metropolitan, mae’r diwrnodau diwethaf wedi bod yn “hunllef”.

“Yn anffodus, rydym wedi cael pedair llofruddiaeth wahanol yn ystod yr wythnos ddiwethaf – heb yr un ohonyn nhw’n gysylltiedig â’i gilydd,” meddai.

“Dyna bedwar teulu a phedwar grŵp o ffrindiau a chydnabod sydd wedi’u heffeithio gan y trais disynnwyr hwn.”

Llofruddiaethau

Ymhlith y pedwar a gafodd eu lladd yn ystod yr wythnos ddiwethaf oedd Malcolm Mide-Madariola, 17, a gafodd ei drywanu i farwolaeth y tu allan i orsaf drenau Clapham South yn ne’r ddinas.

Bu farw’r bachgen o Peckham ddiwrnod ar ôl i Jay Hughes, 15, gael ei drywanu yn Bellingham yn ne-ddwyrain Llundain, toc wedi 4:30yp ddydd Iau (Tachwedd 1).

Yn y cyfamser, cafodd dyn yn ei ugeiniau cynnar ei drywanu i farwolaeth yn Heol Samos, Anerley, de Llundain, tua 12:30yp ddoe (dydd Sul, Tachwedd 4).

Cafodd Rocky Djelal, 38, ei drywanu yng nghanol dydd ar noswyl Calan Gaeaf ger Southwark Park, Rotherhithe, yn y de-ddwyrain.

Cynnydd

Yn ôl yr heddlu, mae cyfanswm o 118 o bobol wedi cael eu llofruddio yn Llundain eleni.

Maen nhw hefyd yn dweud bod 21,000 archwiliad am arfau wedi cael eu gwneud ganddyn nhw ers mis Ebrill, gyda channoedd o gyllyll a gynau yn cael eu meddiannu.

Mae Maer Llundain, Sadiq Khan, wedi dweud mai’r £700m o doriadau i’r heddlu yn Llundain dros gyfnod o saith mlynedd, sy’n gyfrifol am y cynnydd mewn troseddau.

Mae wedi cyhoeddi adolygiad o’r troseddau mwyaf difrifol ers 2014, gyda’r gobaith o ddarganfod beth yn union yw gwraidd y broblem.