Mae cyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil, Syr Jeremy Heywood wedi marw’n 56 oed.
Fe fu’n brwydro yn erbyn canser.
Mae ei wraig, Suzanne wedi talu teyrnged i “dad arbennig”, oedd wedi “gwasgu cymaint i mewn i’w 56 mlynedd”.
Fe wasanaethodd e bedwar Prif Weinidog a dau Ganghellor.
Fe fu’n Ysgrifennydd Cabinet ers 2012 ac yn bennaeth y Gwasanaeth Sifil ers 2014. Mae wedi gweithio o dan y cyn-Brif Weinidogion Tony Blair, Gordon Brown a David Cameron.
Cafodd wybod ym mis Mehefin 2017 ei fod yn dioddef o ganser ond fe arhosodd yn ei swydd yn dilyn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn dilyn canlyniad ysgytwol i’r Ceidwadwyr.
Datganiad adeg ei ymadawiad
Mewn datganiad yn cyhoeddi ei ymadawiad, dywedodd Syr Jeremy Heywood: “35 o flynyddoedd yn ôl, ymunais i â’r Gwasanaeth Sifil yn economegydd brwd ac ifanc o fewn y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, yn llawn syniadau ac yn awyddus i sicrhau bod newidiadau’n digwydd.
“Heddiw, mae gen i’r un awydd i wasanaethu fy ngwlad ac i wneud gwahaniaeth positif. Gyda thristwch mawr, felly, ar sail cyngor meddygol, mae’n rhaid i fi ymddeol.”
‘Gwasanaeth rhagorol’
Wrth dalu teyrnged iddo adeg ei ymadawiad, dywedodd Theresa May, “Mae Jeremy wedi rhoi gwasanaeth rhagorol i’r cyhoedd yn ystod ei yrfa gyda’r Gwasanaeth Sifil.
“Mae wedi gweithio’n gyson i wella dyfodol ein gwlad ac i gyflawni er lles y cyhoedd, gan wasanaethu prif weinidogion a gweinidogion o bob plaid gyda rhagoriaeth yn nhraddodiad gorau’r Gwasanaeth Sifil.
“Rwy’n bersonol ddiolchgar iddo am y gefnogaeth a roddodd i fi fel Prif Weinidog. Mae wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd cyhoeddus yn ein gwlad, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl.”
I ddangos ei gwerthfawrogiad, roedd Theresa May wedi enwebu Syr Jeremy Heywood am anrhydedd oes yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Yn dilyn ei farwolaeth, mae Theresa May wedi dweud, “Fe weithiodd yn ddiflino i wasanaethu ein gwlad”, gan ychwanegu bod ei farwolaeth yn “golled fawr i fywyd cyhoeddus Prydain”.
Teyrnged gan ei olynydd
Wrth dalu teyrnged i’w ragflaenydd, dywedodd Syr Mark Sedwill, cyn-ymgynghorydd diogelwch Theresa May, “Bydd yr holl gyhoedd am ddiolch i Jeremy am ei wasanaeth diflino a rhagorol i’n cenedl, ac am y gwerthoedd y mae’n esiampl ohonyn nhw.
“Mae e wedi cael effaith ddwys, bositif a hirdymor, ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl.”
Teyrnged gan Lafur
Ar ran y Blaid Lafur, dywedodd yr arweinydd Jeremy Corbyn adeg ei ymadawiad fod Syr Jeremy Heywood yn “was sifil gwybodus ac ymroddgar sydd wedi creu argraff”.
“Roedd e bob amser yn ymwybodol o’r angen i weision sifil weld y byd trwy lygaid gweinidogion ac ar yr un pryd, i barchu’r ffiniau rhwng gwleidyddion a gweision sifil,” meddai ei wraig.
“I ffwrdd o’i waith, fe wnaeth e ennyn edmygedd, parch a hoffter yn ei amryw grwpiau o ffrindiau, ac fe ddangosodd y rheiny iddyn nhw hefyd.
“Gallai Jeremy oleuo unrhyw ystafell neu sgwrs, ac roedd e wrth ei fodd yn cynnal parti da.”