Mae’r frwydr hanner tymor rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid yn poethi yn yr Unol Daleithiau ar y penwythnos olaf o ymgyrchu ar drothwy’r etholiad.
Mae’r ddwy blaid yn rhybuddio am oblygiadau colli’r etholiad, wrth i’r Arlywydd Donald Trump deithio ar hyd a lled y wlad i geisio cefnogaeth funud olaf i’r Gweriniaethwyr.
Y cyn-arlywydd Barack Obama yw un o brif ymgyrchwyr y Democratiaid, sy’n gobeithio cipio Tŷ’r Cynrychiolwyr a’r Senedd.
Daw’r etholiad yn fuan ar ôl cynllwyn i fomio arweinwyr y Democratiaid, a’r achos gwaethaf erioed o drais gwrth-Semitaidd yn hanes y wlad.
Mae Donald Trump eisoes wedi cynnal rali ym Montana, ac mae un arall i ddod yn Fflorida cyn yr etholiad, ac mae ei ddirprwy Mike Pence wedi bod yn Kansas, Wisconsin a Fflorida.
Mae Barack Obama wedi bod yn canolbwyntio ar yr ymdrechion yn Indiana, ac ymgyrchwyr eraill wedi bod yn Fflorida.