Mae dau berson wedi cael eu trywanu yn dilyn ffrae rhwng staff cegin pencadlys cwmni Sony Music yn Llundain.

Fe gafodd yr heddlu arfog eu galw i’r adeilad yn Kensington am tua 11 y bore yma (dydd Gwnener, Tachwedd 2), ac fe gafodd un dyn ei arestio.

Mae lle i gredu na chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol, ac mae’r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin y digwyddiad fel un “brawychol”.

Mewn datganiad, mae Sony Music wedi cadarnhau bod pobol wedi gorfod gadael y pencadlys oherwydd bod “dau aelod o staff y gegin yn rhan o ffrae dreisgar”.