Mae dynes 87 oed wedi marw wedi iddi fod mewn damwain draffig ym Mwcle ganol yr wythnos hon.
Cafodd yr heddlu eu galw yn fuan wedi 5:30 yr hwyr ddydd Mercher (Hydref 31) yn dilyn adroddiadau bod Vauxhall Astra wedi taro cerddwr ar Ffordd Caer y tu allan i le prydau parod Mai Kong.
Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Stoke, ond bu farw neithiwr (Tachwedd 1).
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae ei theulu wedi cael gwybod, ac mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.