Mae dyn a gafwyd yn euog o geisio heintio deg o ddynion eraill â HIV, wedi cyhoeddi ei fod yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Mae’r barbwr, Daryll Rowe, wedi cyflwyno ei achos trwy gyfrwng cyswllt fideo yn y Llys Apêl yn Llundain heddiw (dydd Iau, Tachwedd 1). Fe gafodd ei ddedfrydu i dreulio o leiaf 12 mlynedd dan glo yn Llys y Goron Brighton ym mis Ebrill.

Ef yw’r dyn cyntaf yng ngwledydd Prydain i gael ei ddyfarnu’n euog o ledu’r feirws yn fwriadol.

Fe gafwyd Daryll Rowe yn euog o ddeg cyhuddiad – pump o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol, a phump o geisio gwneud hynny.