Mae heddlu yn yr Almaen wedi cadarnhau iddyn nhw arestio gwr o Rwsia sy’n cael ei amau o smyglo 12 miliwn o sigarennau i mewn i’r wlad dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r dyn, 43, bellach yn y ddalfa yn ninas borthladd Kiel. Fe gafodd ei arestio yn ystod archwiliadau cyffredinol.

Mae wedi ei gyhuddo bellach o smyglo’r sigaréts i mewn i’r Almaen rhwng 2009 a 2011 pan oedd yn aelod o giang.

Roedd eu gweithredoedd, meddai’r heddlu, wedi costaio 1.67 miliwn ewros o golled i’r dyn treth.