Fe fydd iard gychod yn ne orllewin Lloegr yn cau y flwyddyn nesaf – er bod ymgyrch wedi’i chynnal yn ddiweddar i chwilio am gontractau newydd er mwyn ei chadw’n agored.
Mae cwmni Babcock International yn dweud ei fod yn “benderfyniad anodd” i gau Iard Appledore yn sir Dyfnaint, ond dyna fydd yn digwydd yn ystod 2019.
Fe fu miloedd o bobol yn gorymdeithio yn ddiweddar er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r iard, ac mae deiseb wedi ei chyflwyno i Lywodraeth San Steffan yn galw ar i weinidogion ymyrryd yn yr achos.
Ond mae Babcock yn dweud y bydd y lês ar y safle yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac maen nhw’n addo ceisio dod o hyd i swyddi i’r 199 o weithwyr yn safleoedd eraill y cwmni.
“Mae Babcock yn gofidio am orfod cymryd y cam hwn, ac mae’r cwmni yn deall yr effaith y bydd yn ei gael ar y gweithwyr proffesiynol a theyrngar,” medden nhw mewn datganiad.
Yn 2017/18, roedd Appledore yn gyfrifol am gynhyrchu tua £24m o holl refeniw Babcock o £5.4bn.