Mae Llywydd NFU Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar leisiau ffermwyr wrth gyflwyno newidiadau i’r diwydiant amaeth.
Daw sylwadau John Davies yng nghynhadledd yr undeb yn Llandrindod heddiw (Tachwedd 1) ychydig ddiwrnodau ar ôl i’r ymgynghoriad ‘Brexit a’n Tir’ ddod i ben.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â thaliadau uniongyrchol i ffermwyr, sy’n cael eu talu yn ôl faint o dir ganddyn nhw, i ben wedi Brexit.
Mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi dweud eu bod nhw am weld system debyg yn cael ei chyflwyno, ond mae’r Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth, Lesley Griffiths, yn mynnu y bydd yn rhaid cael gwared â’r Taliad Sylfaenol.
Angen polisi ‘Cymreig’
Yn ôl NFU Cymru, mae dros 2,800 o ffermwyr a busnesau yng Nghymru wedi ymateb i’r ymgynghoriad – a ddaeth i ben ar Hydref 30 – drwy gyfrwng yr undeb.
Maen nhw hefyd yn dweud bod dros 2,500 o bobol wedi bod yn bresennol yn eu digwyddiadau dros yr haf, gyda dros 16,000 o e-byst yn cael eu hanfon gan aelodau wedyn at Aelodau Cynulliad yn eu hannog i frwydro dros fuddiannau ffermwyr.
Dywed John Davies fod gan y diwydiant amaeth gyfle ar hyn o bryd i “gynllunio, datblygu a gweithredu polisi Cymreig”.
“Cyfnod allweddol”
“Mae gennym gyfle, trwy’r ymgynghoriad hwn, i sicrhau bod Cymru’n parhau i gael ei gweld fel gwlad sydd ar flaen y gad o ran cynhyrchu a datblygiadau amaethyddol,” meddai.
“Rydym yn cydnabod, fel diwydiant, fod hwn yn gyfnod allweddol yn ein hanes, a dyna’r rheswm pam mae NFU Cymru wedi ymgymryd â’r fath lefel o gysylltu â’i haelodau.
“Mae ein haelodau, ar y cyd â busnesau a chymunedau sydd wedi’u selio ar amaeth yng Nghymru, wedi ymuno â’i gilydd er mwyn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed ar groesffordd mor fawr.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar leisiau’r bobol a fydd yn cael eu heffeithio mwyaf gan y cynlluniau hyn.”
Mae disgwyl i’r cynlluniau ariannu newydd ddod i rym erbyn 2025, ac maen nhw’n cynnwys system o grantiau busnes a chronfa a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am wella’r amgylchedd.