Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad gwerthwraig tai o Lundain dros 30 mlynedd yn ôl wedi cychwyn archwilio tŷ yng nghanolbarth Lloegr.

Roedd Suzy Lamplugh, a oedd yn 25 oed adeg ei diflaniad yn 1986, wedi gadael ei swyddfa yng ngorllewin Llundain er mwyn cyfarfod â chleient a oedd yn dwyn yr enw ‘Mr Kipper’.

Cyhoeddodd yr heddlu yn 1994 eu bod nhw’n credu ei bod wedi’i llofruddio, ond does neb wedi’u cyhuddo o gyflawni’r drosedd.

Mae’r Heddlu Metropolitan wedi cadarnhau bod swyddogion yn archwilio tŷ yn ardal Sutton Coldfield, Birmingham.

Maen nhw wedi gwrthod gwneud sylw am “suon” sy’n amgylchynu’r ymchwiliad, wedi i bapur The Sun adrodd bod y tŷ sy’n cael ei archwilio’n gysylltiedig â’r llofrudd, John Cannan.

Cafodd y gŵr hwn ei garcharu am oes yn 1989 ar ôl treisio a llofruddio Shirley Banks o Fryste.

Mae wedi cael ei holi droeon mewn cysylltiad â diflaniad Suzy Lamplugh, ond dyw’r heddlu ddim wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

Yn ôl llygaid dystion, cafodd y gwerthwraig tai eu gweld ar ddiwrnod ei diflaniad yn ffraeo â dyn y tu allan i eiddo yn Heol Shorrold, Fulham.

Cafodd ei Ford Focus gwyn ei ddarganfod hanner milltir i ffwrdd yn ddiweddarach.