Mae Theresa May wedi cyhoeddi na fydd unrhyw un sydd wedi’i amau o ladd y newyddiadurwr Jamal Khashoggi yn cael mynediad i wledydd Prydain.
Cafodd y newyddiadurwr, oedd yn gweithio i’r Washington Post, ei ladd ar Hydref 2.
Dywedodd Prif Weinidog Prydain y byddai unrhyw un dan amheuaeth yn colli eu fisas, gan alw ar awdurdodau Saudi Arabia i gynnig esboniad llawn o sut y bu farw yn llysgenhadaeth y wlad yn Istanbul.
Dywedodd yr awdurdodau y bu farw mewn ffrwgwd, ond mae hynny wedi cael ei amau.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth i’r amlwg fod hyd at 15 o ddynion arfog wedi ei ladd – yn eu plith roedd un o swyddogion diogelwch y Tywysog Coronog Mohammed bin Salman.
Dywedodd Theresa May yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Hydref 24) y byddai hi’n trafod y sefyllfa â’r Brenin Salman, gan ychwanegu bod yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid yn “cymryd camau” yn erbyn unrhyw un dan amheuaeth.