Mae Siapan wedi cyhoeddi enw’r newyddiadurwr a gafodd ei ryddhau ar ôl cael ei herwgipio yn Syria tair blynedd yn ôl.

Mae wedi cael ei adnabod fel Jumpei Yasuda, sef gohebydd llawrydd sydd wedi bod yn gweithio yn y Dwyrain Canol ers dechrau’r 2000au.

Mae wedi’i enwi ar ôl i swyddogion yn Llysgenhadaeth Siapan gyfarfod ag ef mewn canolfan ffoaduriaid yn ne Twrci ger y ffin â Syria, lle’r oedd mewn iechyd da, meddai Gweinidog Tramor Siapan, Taro Kono.

Roedd y newyddiadurwr wedi mynd ar goll yn 2015, pan gafodd ei herwgipio gan gangen o al Qaida, a oedd yn cael ei adnabod ar y pryd fel ‘Nusra Front’, yn Syria.

Yn ôl adroddiadau diweddar, roedd yn cael ei ddal gan bennaeth milwrol sy’n perthyn i’r Blaid Dwrcistanaidd Islamaidd.

Daeth y cyhoeddiad ei fod wedi’i ryddhau neithiwr (dydd Mawrth, Hydref 23), yn dilyn ymdrechion gan Qatar a gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol.

Nid dyma’r tro cyntaf i Jumpei Yasuda gael ei herwgipio yn y rhan hon o’r byd. Yn 2004, cafodd ei gymryd yn wystlon yn Irac gyda thri pherson arall o Siapan.

Cafodd ei ryddhau ar ôl i glerigwyr Islamaidd gynnal trafodaethau gyda’i herwgipwyr.