Mae tri o ddynion wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gerddwr gael ei daro â char.

Fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dyn a car yn Forest Park, Nottingham toc wedi hanner nos, nos Lun (Hydref 22).

Fe gafodd y gwr ei gludo i’r Queen’s Medical Centre yn Nottingham, ond bu farw cyn cyrraedd.

Mae tri dyn – 18, 23 a 25 oed – yn y ddalfa yn cael eu holi.