Mae Heddlu’r Met wedi gorfod troi allan i geisio rheoli protestwyr y tu allan i lys yr Old Bailey heddiw (dydd Mawrth, Hydref 23) wrth i gefnogwyr yr ymgyrchydd asgell dde, Tommy Robinson, ymgasglu.

Roedd fflagiau Lloegr a’r Undeb, ynghyd â rhai UKIP, yn cael eu chwifio gan y dorf tu allan i’r llys, wrth i’r protestwyr alw am ryddhau arweinydd yr EDL (English Defence League).

Mae Tommy Robinson yn dychwelyd i’r llys  dros achos o ddirmyg llys wedi iddo ffilmio pobol mewn achos troseddol yn Leeds cyn darlledu’r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 yn ei gwneud hi’n drosedd i dynnu lluniau o bobol yn y llys.

Yn ogystal â’i gefnogwyr, mae grŵp bach o ymgyrchwyr gwrth-ffasgaidd wedi crynhoi yno hefyd er mwyn gwrthwynebu’r cannoedd o gefnogwyr ddaeth i fynegi eu cefnogaeth i Tommy Robinson.