Fe fydd yr awdur P G Wodehouse, a greodd gymeriadau Jeeves a Wooster, yn cael ei anrhydeddu â phlac yn Abaty Westminster.

Mae disgwyl i fywyd yr awdur, a gafodd ei urddo’n farchog yn 1975, gael ei ddathlu yn ddiweddarach eleni, yn ôl papur newydd The Times.

Er iddo greu nifer o weithiau llenyddol poblogaidd, fe gafodd ei feirniadu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddarllediadau oedd yn cael eu hystyried yn gymorth i’r Natsïaid.

Yn dilyn yr helynt, fe adawodd ei gartref yn Lloegr a mynd i fyw i’r Unol Daleithiau tan iddo farw yn 1975. Cafodd ei gladdu yn Efrog Newydd.

Mae’r gofeb iddo’n cael lle yn Abaty Westminster ochr yn ochr â nifer o fawrion y byd llenyddol, gan gynnwys Geoffrey Chaucer, William Shakespeare a Charles Dickens.