Mae cwmni theatr yng ngogledd Cymru wedi cael ei enwebu am dair gwobr ym mhrif seremoni wobrwyo’r byd theatr yng ngwledydd Prydain.
Bydd Gwobrau Theatr y Deyrnas Unedig yn cael eu cynnal y penwythnos hwn (dydd Sul, Hydref 14), ac mae Theatr Clwyd ymhlith y theatrau mawr a fydd yn ymgiprys am wobrau.
Y gwobrau maen nhw’n gobeithio eu hennill yw’r Ddrama Newydd Orau, y Cynhyrchiad Cerddorol Gorau, a’r Cyflwyniad Gorau o Theatr Deithiol.
Y cynyrchiadau
Y cynhyrchiad sydd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr y Ddrama Newydd Orau yw Home, I’m Darling gan Laura Wade.
Mae’n gynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Clwyd a’r Theatr Genedlaethol, ac mae’n sôn am ryw, cacennau, a’r ymgais i fod yn wraig tŷ berffaith yn y 1950au.
Roedd gan ddau actor o Gymru brif rannau yn y ddrama, sef Richard Harrington a Sara Gregory.
Wedi’i enwebu ar gyfer y Cynhyrchiad Cerddorol Gorau mae The Assassination of Katie Hopkins gan Chris Bush a Matt Winkworth.
Mae’r sioe gerdd yn edrych ar wirionedd, byd y selebs a dicter cyhoeddus sy’n arwain at drosedd erchyll.
Roedd dau o Wrecsam, sef David White a Jordan Li, yn gyfrifol am ochr gerddorol y sioe, ac roedd gan yr actores, Beth-Zienna Williams, brif ran ynddi.
Yn cael ei enwebu ar gyfer y Cyflwyniad Gorau o Theatr Deithiol wedyn mae A Streetcar Named Desire, sy’n dilyn hynt athrawes sy’n gadael ei chartref ym Mississippi i fwy gyda’i chwaer a’i theulu yn New Orleans.
Mae wedi’i gynhyrchu ar y cyd rhwng Nuffield Southampton Theatres a’r English Touring Theatre.
‘Mae’r gwaith yn dwyn ffrwyth’
“Mae rhywbeth pwysig yn digwydd yma yn ein cartref ni ar ben y bryn yng ngogledd Cymru,” meddai Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd.
“Mae’r gwaith wnaethon ni ddechrau pan gymerodd Liam a minnau’r awenau yma’n dechrau dwyn ffrwyth a ‘r gwanwyn yma fe wnaethon ni fentro llwyfannu sioe gerdd newydd sbon a drama newydd sbon.
“Fe dalodd y risg ar ei chanfed ac fe gawson ni ein gwobrwyo gyda chynulleidfaoedd brwdfrydig a chefnogol.
“Sioeau gwahanol iawn o ran naws a chynnwys ond yn hynod adloniadol hefyd, ac yn gofyn cwestiynau mawr am ein cymdeithas ni.
“Cafodd y ddwy sioe eu creu gan ein timau mewnol hynod fedrus yn Theatr Clwyd – creu’r set, paentio, gwneud y gwisgoedd a chreu props – mae’n gynyddol brin cael y sgiliau yma’ fewnol.”