Mae dyn a oedd wedi trywanu ei ferch wyth oed yn ei brest “mewn ymgais i ddial ar ei gynbartner”, wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.
Roedd William Billingham, 55, wedi defnyddio cyllell i ladd Mylee Billingham ar ôl ei llusgo i’w dy – funudau’n unig ar ôl iddo ddal y gyllell i wddf ei mam, Tracey Taundry.
Clywodd Llys y Goron Birmingham bod Tracey Taundry wedi ffonio 999 o du allan i gartref William Billingham yn Brownhills, ger Walsall gan ddweud wrth yr heddlu i ddod ar unwaith.
Cafwyd William Billingham yn euog o lofruddiaeth a chyhuddiad ar wahân o fygwth lladd Tracey Taundry, 34.
Roedd William Billingham wedi penderfynu peidio rhoi tystiolaeth gan honni nad oedd ganddo gof o drywanu Mylee. Roedd yr erlyniad wedi dadlau ei fod wedi “troi ei ddicter” tuag at ei ferch er mwyn dial ar Tracey Taundry ar ôl iddi ddechrau perthynas gyda dynes arall.
Fe fydd y gweithiwr ffatri yn cael ei ddedfrydu yfory (dydd Mawrth, 2 Hydref).