Mae dyn 28 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ddwbwl ar ôl i ddwy ddynes gael eu lladd ger Tonbridge yn Swydd Caint ddydd Sadwrn.

Cafodd y ddwy, un yn ei 50au a’r llall yn ei 70au, eu trywanu yn dilyn digwyddiad, ac fe fuon nhw farw yn yr ysbyty.

Mae dyn arall yn ei 70au yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol, ac mae Jack Ralph hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio’r dyn hwnnw, sydd mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc ar ôl 7.40 fore Sadwrn (Medi 29), ac fe ddaethon nhw o hyd i dri o bobol ag anafiadau difrifol oedd yn awgrymu iddyn nhw gael eu trywanu.

Mae’r pedwar i gyd yn byw ar yr un stryd ac mae lle i gredu eu bod yn adnabod ei gilydd.

Fe fydd Jack Ralph yn mynd gerbron ynadon Medway ddydd Llun.