Mae dyn 25 oed wedi ymddangos gerbron y llys, wedi i blismon gael ei daro gan gar yn Stafford.
Mae Gurajdeep Malhi wedi’i gyhuddo o anafu PC Claire Bond gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol. Mae hefyd wedi’i gyhuddo o yrru’n beryglus, o ddreifio tra wedi’i wahardd, ac o yrru heb yswiriant.
Mae’r blismones wedi’i hanafu yn ei choes a thorri’i phen-glin, wedi digwyddiad fore Sul.
Mae ail heddwas, a gafodd ei daro gan gar yn ardal Coton Fields, newydd gael ei anfon gartref o’r ysbyty.
Mae Lucy Maria Bullmore, 30, hefyd wedi ymddangos gerbron y llys wedi’i chyhuddo o yrru Range Rover Evoque yn beryglus ar yr un diwrnod yn Stafford, ac o fethu â rhoi sampl ar gyfer prawf anadl.