Mae angen dyblu’r nifer o fyfyrwyr meddygol er mwyn mynd i’r afael â phrinder meddygon, yn ôl meddyg blaenllaw.
Ar hyn o bryd mae tua 7,500 o fyfyrwyr meddygol ym Mhrydain, ac addawodd y Llywodraeth yn 2016 y byddai’n sicrhau cynnydd o 1,500 yn y nifer.
Dywed Dr Bod Goddard, llywydd newydd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, fodd bynnag, bod angen 6,000 arall ar ben hynny er mwyn llenwi bylchau yn y gweithlu a chymryd lle meddygon a fydd yn ymddeol.
Daw ei rybudd wrth i Goleg Brenhinol y Ffisigwyr ddathlu ei 500 mlwyddiant heddiw. Cafodd y Coleg ei sefydlu gan Harri VIII ar gais ei feddyg ei hun, Thomas Linacre, i gynnal safonau gofal meddygol.