Mae Jeremy Corbyn wedi awgrymu y byddai’n fodlon cefnogi refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd os bydd polisi o’r fath yn cael ei
gymeradwyo gan gynhadledd Llafur.
Cynyddu mae’r pwysau ar arweinydd y blaid Lafur i gefnogi refferendwm o’r fath.
Wrth i’w cynhadledd flynyddol gychwyn yn Lerpwl heddiw, mae arolwg barn o aelodau Llafur yn awgrymu bod 86% ohonyn nhw o blaid refferendwm, ac y byddai 90% yn pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd gorymdaith o undebwyr a gwleidyddion Llafur yn Lerpwl heddiw yn ceisio rhoi pwysau ychwanegol ar eu plaid i fabwysiadu polisi dros refferendwm mewn dadl ddydd Mawrth.
Hyd yma, mae’r arweinydd wedi bod yn wrthwynebus i refferendwm, ac mae wedi dod o dan feirniadaeth gynyddol am ei agwedd at Brexit.
Polisi’r gynhadledd
Mewn cyfweliad gyda’r Sunday Mirror heddiw, dywed arweinydd Llafur y byddai’n cadw at bolisi ei blaid.
“Beth bynnag a ddaw allan o’r gynhadledd, fe fyddaf yn glynu wrtho,” meddai.
“Dw i ddim yn galw am ail refferendwm. Dw i’n gobeithio mai’r ffordd orau o ddatrys hyn yw etholiad cyffredinol.
“Ond fe ges if y ethol i rymuso aelodau’r blaid. Felly os yw’r gynhadledd yn gwneud penderfyniad, fydda i ddim yn cerdded i ffwrdd ond yn gweithredu’n unol â hynny.”
Yr un oedd neges y diprwy arweinydd Tom Watson hefyd:
“Cafodd Jeremy a finnau ein hethol yn 2015 i roi’r blaid Lafur yn ôl i’w haelodau,” meddai.
“Felly os yw plaid y bobl yn penderfynu bod arnyn nhw eisiau i’r bobl gael y gair olaf ar y cytundeb, mae’n rhaid inni barchu barn ein haelodau ac fe fyddwn ni’n mynd allan ac yn dadlau dros hynny.”