Mae miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio yn Rwsia heddiw (dydd Sadwrn. Medi 22) er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau i godi oed pensiwn o bum mlynedd.
Fe gynhaliwyd rali yn Mosgow gan y Blaid Gomiwnyddol a grwpiau eraill, gyda chaniatad swyddogion y ddinas.
Mae arweinydd y Blaid Gomiwnyddol, Gennady Zyuganov. wedi galw am ddileu’r cynlluniau, gan ddadlau y dylai llywodraeth Rwsia fod yn rhannu ei hadnoddau er mwyn osgoi gorfod codi’r oed y bydd gweithwyr yn gallu hawlio pensiwn.
“Maen nhw estyn yn ddyfnach i mewn i’ch pocedi chi trwy’r amser,” meddai wrth y dorf a oedd yn chwifio baneri coch.
Fe gynhaliwyd protestiadau tebyg mewn dinasoedd ledled Rwsia.