Mae rhwyfwr wedi cael ei achub o’r môr ger Land’s End wedi iddo geisio cychwyn ar daith ar ei ben ei hun dros y Môr Iwerdydd mewn cwch yr oedd wedi’i adeiladu ei hun.

Fe gychwynnodd Duncan Hutchison o Efrog Newydd ym mis Mai ar ei daith 3,500 milltir i Lochniver yng ngogledd-orllewin yr Alban, a hynny mewn cwch rhwyfo pren 23 troedfedd.

Fe lwyddodd i godi £18,000 i elusen WaterAid.

Ond fe gafodd ei achub o’r dyfroedd rhyw 863 o filltiroedd oddi ar arfordir Cernyw heddiw (dydd Sadwrn, Medi 22) gan dancer sydd bellach yn gario gartref i Efrog Newydd.

Roedd nam technegol yn golygu nad oedd ganddo bellach ddim cymorth electronig ar y cwch, na modd o gysylltu â’r byd mawr.