Mae Gweinidog Tramor llywodraeth Iwerddon wedi mynegi pryder ynglyn â’r effaith y bydd y fargen rhwng y blaid Geidwadol a’r DUP yn ei gael ar Brexit.
Yn ôl Simon Coveney, ni ddylai’r un blaid gael yr hawl i benderfynu beth fydd yn digwydd i’r ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth ei sylwadau wedi i arweinydd y DUP, Arlene Foster, ganmol Theresa May am “ddal ei thir” yn erbyn gwledydd eraill yr Undeb.
“Does ganddon ni ddim cytundeb fel yr un rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP,” meddai Simon Coveney. “Rydyn ni’n gwrando ar yr holl bleidiau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon… yn cynnwys y DUP, yr UUP a’r Alliance, yr SDLP a Sinn Fein.
“Dw i’n credu y byddai’r DUP hefyd yn derbyn bod Gogledd Iwerddon yn sefyllfa wahanol.”