Daeth dwsinau o gefnogwyr pêl-droed Cymru i weld plac yn cael ei ddadorchuddio i un o sêr pêl-droed Cymru, Wyn Davies, pan ddychwelodd adref i Gaernarfon heddiw (dydd Sadwrn, Medi 22)
Mewn seremoni yn 17 Maes Barcer, ei gartref yn y dre’, fe gafodd plac ei ddadorchuddi yn nodi campau’r ymosodwr 6’2″.
Bellach yn 76 oed ac yn byw yn Bolton, roedd Ronald Wyn Davies o Gaernarfon yn un o sêr Cymru yn y 1960au a’r 1970au. Roedd yn cael ei adnabod fel ‘Wyn The Leap’ neu ‘The Mighty Wyn’ gan y cefnogwyr am ei allu rhyfeddol i neidio’n uwch na neb arall i benio’r bêl.
Fel ymosodwr, chwaraeodd i Gymru yn ogystal ac i glybiau yn cynnwys Caernarfon, Wrecsam, Bolton Wanderers, Manchester United, Manchester City a Newcastle United ble canai’r cefnogwyr ei fersiwn eu hunain o gân Manfred Mann “Come on without, come on within, you’ll not see nothing like the mighty Wyn”.
Yn ystod ei yrfa fe lwyddodd Davies i ennill 34 cap dros ei wlad, Bu’n rhaid iddo gael rhagor na chant o bwythau yn ystod ei yrfa ac un tro fe barhaodd i chwarae mewn gêm yn Ewrop er gwaethaf ei fod wedi torri asgwrn ei foch.
Cafodd Wyn ei gyflwyno i’r dorf yn Stadiwm yr Ofal cyn i Gaernarfon herio Llanelli yn Uwch Gynghrair Cymru. Wyn Davies oedd y gŵr gwadd yn lolfa’r clwb yn dilyn y gêm, lle cafodd darlun mawr ohono ei ddadorchuddio.
Pam oedd Wyn Davies mor arbennig?
Un o gefnogwyr mwyaf Wyn Davies yw’r cerddor a’r arlunydd Malcolm Gwyon, 61, o Aberteifi.
“O’n i yn ffan mawr o Wyn pan enillodd Newcastle y Fairs Cup ym 1969,” meddai wrth golwg360. “O’dd Ollie Burton, Cymro arall, yn chwarae yn yr amddiffyn. Es i weld Wyn yn chwarae lot o weithie i Gymru yn hen gae’r Vetch yn erbyn Tsiecoslofacia a Rwsia.
“Rwy’n cofio ei weld e yn chwarae yn erbyn Abertawe – y ffordd oedd e’n penio’r bêl.”
Un tro aeth Malcolm i weld Wyn Davies yn ymarfer gyda Crewe, cael sgwrs ag ef a wedyn rhoi ei sgrapbwc iddo a chytunodd y cawr i’r arwyddo. Yna, fe gafodd sgwrs â’i arwr pan gyd-deithiodd gydag ef a’r chwaraewr Kevin Tully ar y trên o Crewe i Fanceinion.