Rhaid i’r Undeb Ewropeaidd drin y Deyrnas Unedig â “pharch” yn ystod trafodaethau Brexit.
Dyna rybuddiodd y Prif Weinidog, Theresa May, wrth annerch y genedl o Downing Street heddiw.
“Fydda i ddim yn anwybyddu canlyniad y refferendwm, nac yn hollti fy ngwlad,” meddai, cyn dadlau nad oes modd i Ewrop wrthod ei chynlluniau Brexit.
Dan gynlluniau Theresa May byddai’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn gweithredu rheolau tebyg tros nwyddau, a’i dadl yw mai dyna yw’r drefn orau.
Ond mae rhai Ceidwadwyr yn dadlau y byddai hynny’n tanseilio sofraniaeth y Deyrnas Unedig, a dyw Ewrop heb ymateb yn rhy hael chwaith.
Mae’r Deyrnas Unedig i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29, 2019.