Roedd y BBC “wedi’i gor-wneud hi” gyda’r darllediad o’r cyrch ar gartref Sir Cliff Richard yn 2014, yn ôl Cyfarwyddwr Cyffredinol y gorfforaeth.
Daw hyn ar ôl i’r BBC gyhoeddi na fyddan nhw’n apelio yn erbyn dyfarniad y llys ynglŷn â sut cafodd y cyrch ar gartref y canwr yn Berkshire ei ddarlledu.
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â chyhuddiad yn erbyn Cliff Richard ynglŷn ag ymosod yn rhywiol ar blentyn, ond cafodd ei enw ei glirio yn ddiweddarach.
“Dros ben llestri”
“Un o’r rhesymau pam na fyddan nhw’n apelio yw oherwydd fy mod i’n credu bod natur y darllediad ychydig dros ben llestri,” meddai Tony Hall o flaen pwyllgor seneddol.
“Fe wnaethom ni gysylltu â chyfreithwyr Sir Cliff ac fe wnes i gysylltu â Sir Cliff ar wahanol adegau yn awgrymu ein bod yn eistedd i lawr ac yn ceisio datrys hyn heb orfod mynd i’r llys.
“Yn anffodus, ond yn hollol ddealladwy, fe ddaeth y safbwynt cyfreithiol yn ôl, sef, dydyn ni ddim am siarad ac rydym yn barod i ddatrys pethau os ydych chi’n dweud eich bod wedi gweithredu’n anghyfreithlon.
“Ond dw i ddim yn meddwl ein bod wedi gweithredu’n anghyfreithlon.”