Fe fydd S4C yn aros yng Nghaernarfon am y deng mlynedd nesa’, ar ôl iddyn nhw sicrhau estyniad i les eu swyddfa yn y dre’.

Mae hyn yn dilyn les gwreiddiol a gafodd ei arwyddo yn 2007, ac mae S4C yn dweud y bydd yr estyniad diweddara’ yn “gwarantu ein presenoldeb yng ngogledd Cymru” ar gyfer y degawd nesa’.

Mae swyddfa’r sianel yn y dre’ wedi’i lleoli yn Noc Fictoria, ac mae deuddeg aelod o staff llawn amser yn gweithio yno.

Mae S4C wedi bod â phresenoldeb yng Nghaernarfon ers dechrau’r 1980au.

“Perthynas hanesyddol”

“Ar amser o newid mawr yn S4C, ac wrth i ni symud ein prif swyddfa i Gaerfyrddin, mae’n bwysig fod S4C yn gallu dangos ei hymrwymiad i Gymru gyfan,” meddai Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.

“Yn ychwanegol at leoliadau’r dyfodol yng Nghaerfyrddin a Sgwâr Canolog Caerdydd, rwy’n falch bod ni wedi gallu gwarantu ein presenoldeb yng ngogledd Cymru am ddeng mlynedd arall…

“Mae gennym berthynas hanesyddol gyda Chaernarfon. Mae’r cytundeb yma’n sicrhau hynny ar gyfer y dyfodol.”