Mae priodas prif-gogydd a chantores roc dros y Sul wedi rhoi pentref bach yn Sir Ddinbych “ar y map”, yn ôl un o’r trigolion.

Mi briododd, Bryn Williams a Sharleen Spiteri, cantores y band Texas, ddydd Sadwrn (Medi 8), yn Eglwys St Tyrnog, a chafodd y seremoni gryn dipyn o sylw gan y wasg.

Yn Llandyrnog ger Dinbych y cynhaliwyd y briodas, ac ymhlith y gwesteion roedd Stella McCartney, y ddylunwraig a oedd hefyd wedi creu’r ffrog briodas.

Yn ôl Rosamund Johnson, perchennog siop a swyddfa bost Llandyrnog, roedd pob un o’r trigolion wedi ymgynnull ar y brif stryd er mwyn bod yn rhan o’r achlysur.

“Roedd hi’n brysur iawn,” meddai wrth golwg360. “Roedd y pentref cyfan allan.

“Mae’r holl beth wedi rhoi Llandyrnog ar y map, i ddweud y gwir. Roedd o’n beth neis i’w brofi. Dydech chi ddim yn gweld llawer o sêr ac enwogion yma!”

Y briodas

Cyrhaeddodd Sharleen Spiteri, 50, y briodas mewn Aston Martin gwerth £3m, yn ôl adroddiadau, ac mi fenthycodd y cerbyd hwnnw wrth y DJ enwog, Chris Evans.

Fe briododd Bryn Williams, 41, yn Eglwys Blwyf Saint Tyrnog yn ei ardal enedigol.