Mae’r cyflwynydd radio, Chris Evans, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael BBC Radio 2.
Fe gyhoeddodd yn fyw ar yr awyr yn ystod ei raglen frecwast ei fod yn gadael yr orsaf wedi wyth mlynedd.
Roedd wedi awgrymu trwy gydol y sioe y bore yma fod ganddo “gyhoeddiad mawr”, cyn cyhoeddi ychydig ar ôl 8:10yb ei fod yn gadael.
Dywedodd fod ei wraig, Natasha, yn feichiog gydag efeilliaid, a’i fod yn gadael Radio 2 oherwydd hynny.
Ond mae wedi addo na fydd yn gadael tan ar ôl y Nadolig.
“Dw i’n mynd i adael Radio 2”
“Mae’r efeilliaid ar eu ffordd,” meddai. “Dw i’n mynd i adael Radio 2.”
“Mae rhai ohonom ni yn ddringwyr mynydd, ac os ydych chi’n cyrraedd brig eich hoff fynydd, rydych yn dod yn wyliwr, felly mae’n rhaid i mi barhau i ddringo.
“Mae’n rhaid i chi barhau i gymysgu pethau i fyny.”
Mae Chris Evans wedi bod yng ngofal y sioe frecwast ar BBC Radio 2 ers olynu’r diweddar Terry Wogan i’r swydd yn 2010.
Does dim gwybodaeth ynglŷn â phwy fydd yn olynu Chris Evans wedi’i chyhoeddi eto.