Mae llywodraeth yr Alban wedi lansio cynllun i ddyblu’r incwm a ddaw i’r wlad o dwristiaeth bwyd a diod erbyn 2030.
Y nod yw troi’r Alban yn arweinydd rhyngwladol mewn twristiaeth bwyd a sicrhau £1 biliwn ychwanegol yn flynyddol i’w heconomi.
Mae’r camau yn y cynllun yn cynnwys gwefan twristiaeth bwyd newydd, rhaglen prentisiaethau, ac annog mwy o dwristiaeth amaethyddol.
Cafodd y cynllun ei lansio gan arweinwyr busnes a’r prif weinidog Nicola Sturgeon ar ynys Arran, lle mae cabinet yr Alban yn cyfarfod.
“Mae’r Alban eisoes yn enwog fel gwlad bwyd a diod, gyda’n cynnyrch o safon yn adnabyddus drwy’r byd,” meddai Nicola Sturgeon.
“Gyda thua £1 biliwn eisoes yn cael ei wario ar fwyd a diod gan ymwelwyr bob blwyddyn, mae’r budd economaidd yn amlwg.
“Yma yn Arran, dw i’n gweld sut y gall cynnyrch lleol o safon ddenu ymwelwyr a chyfoethogi eu profiad o’r Alban.
“Nawr yw’r amser i bawb weithio gyda’i gilydd i sicrhau ein bod ni’n manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan y sector yma i’w gynnig.”