Mae’r Prif Weinidog ar ei ffordd i Affrica i geisio hyrwyddo cytundebau masnach â’r cyfandir ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd Theresa May yn ymweld â De Affrica, Nigeria a Kenya ar ei thaith gyntaf i’r cyfandir ers dod yn Brif Weinidog ddwy flynedd yn ôl.
Dyma ymweliad cyntaf prif weinidog Prydeinig ag Affrica ers i David Cameron fynd i wasanaeth coffa Nelson Mandela yn 2013, a’r cyntaf yn Kenya ers i Margaret Thatcher fynd yno yn 1988.
Meddai Theresa May:
“Mae Affrica ar fin chwarae rhan drawsnewidiol yn economi’r byd, ac fel hen bartneriaid mae’r daith hon yn gyfle unigryw ar adeg unigryw i Brydain gyfleu ein huchelgais i weithio’n agosach fyth gyda’n gilydd.
“Mae Affrica mwy ffyniannus, sy’n tyfu a masnachu, o fudd i bawb ohonom, a’r unig ffordd y gellir gwireddu ei botensial anhygoel yw trwy bartneriaeth benderfynol rhwng llywodraethau, sefydliadau byd-eang a busnes.
“Wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, nawr yw’r adeg i Brydain ddyfnhau a chryfhau ei bartneriaethau byd-eang.”