Mae’n ymddangos bod y benthyciwr arian Wonga yn wynebu methdaliad ar ôl dioddef nifer cynyddol o hawliadau am iawndal.

Dywed y cwmni eu bod yn “ystyried pob dewis”, ac yn ôl adroddiadau ar Sky, maen nhw wedi trefnu i’r cyfrifwyr Grant Thornton weithredu fel gweinyddwyr os bydd bwrdd Wonga yn penderfynu nad oes modd osgoi methdaliad.

Yn gynharach y mis yma, dywedodd Wonga fod ei drafferthion i’w priodoli i gynnydd sylweddol drwy’r diwydiant benthyciadau diwrnod cyflog yn y ceisiadau am iawndal cysylltiedig â benthyciadau o’r gorffennol.

Mae Wonga yn un o’r cwmnïau sydd wedi cael ei feirniadu am y llog uchel mae’n ei godi ar fenthyciadau, ac mae wedi cael ei dargedu o dargedu’r rheini sy’n fregus.