Roedd digwyddiad yn ninas Sheffield lle cafodd pump o bobol eu hanafu – rhai wedi’u trywanu – yn enghraifft o ymosodiad treisgar a digymell, meddai Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.

Mae pedwar dyn wedi cael eu hanfon i garchar am achosi’r ffrwgwd cyn Nadolig yng nghlwb nos Niche, Sheffield, y llynedd – digwyddiad a gafodd ei ffilmiau gan gamerâu cylch cyfyng.

Fe gafodd plismyn eu galw i’r clwb yn ardal Wicker yn ystod oriau mân bore Sadwrn, Rhagfyr 23, yn dilyn adroddiadau fod nifer o bobol wedi cael eu hanafu.

Mae pump dyn a oedd, cyn hyn, wedi cyfadde’ achosi anhrefn treisgar, wedi’u dedfrydu yn Llys y Goron Sheffield.

Mae Roemol Taylor, 20, o Sheffield, wedi’i ddedfrydu i 30 mis dan glo; Negus Nelson, 29, o Sheffield, i 16 mis; Torrington Smith, 28, o Sheffield, am 23 mis; Leyton Orr, 26, o Sheffield am 16 mis.

Mae Junior Christopher Nieta, 34, hefyd o Sheffield, wedi’i ddedfrydu i 16 mis dan glo, wedi’i ohirio am ddwy flynedd.