Mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud na fydd yn gwrthwynebu cynlluniau’r Unol Daleithiau i gyflwyno’r gosb eitha’ yn achos dau ddyn o wledydd Prydain sydd wedi’u cyhuddo o ymladd gydag eithafwyr Islamaidd.
Mae hyn yn golygu y gallai Alexanda Kotey ac El Shafee Elsheikh gael eu cludo i’r Unol Daleithiau er mwyn ymddangos gerbron y llys.
Fe gafodd y ddau, sy’n aelodau o gell y Wladwriaeth Islamaidd yn Iran a Syria o’r enw ‘The Beatles’, eu harestio gan yr awdurdodau ddechrau’r flwyddyn. Y gred yw bod y gell wedi bod yn gyfrifol am ladd cyfres o bobol o’r Gorllewin oedd wedi cael eu cipio.
Ers hynny, mae dadlau wedi bod ynghylch a ddylai’r ddau gael eu hanfon i’r Unol Daleithiau neu’r Deyrnas Unedig i sefyll eu prawf.
Ond mewn llythyr sydd wedi’i gyhoeddi gan bapur newydd The Daily Telegraph, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, wrth y Twrnai Cyffredinol, Jeff Sessions, na fydd cais yn cael ei wneud yn yr achos yma i sicrhau na fydd y ddau yn wynebu’r gosb eithaf.
Mae hefyd wedi dweud nad yw’r penderfyniad yn yr achos yma yn adlewyrchu newid mewn polisi Llywodraeth Prydain.
Ychwanegodd wedyn fod llysoedd yr Unol Daleithiau mewn sefyllfa well i ddelio ag achosion sy’n ymwneud ag “ymladdwyr tramor” gan fod ’na risg o her gyfreithiol yn y DU.
Mae’r Telegraph hefyd yn adrodd bod dogfennau’n dangos bod swyddogion o Brydain wedi dweud y gallai’r ddau gael eu hanfon i Guantanamo heb sefyll eu prawf ac na fyddan nhw’n gwrthwynebu hynny.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi gwrthod gwneud sylw am y ddogfen sydd wedi dod i ddwylo’r papur newydd.
Mae grwp ymgyrchu dros hawliau dynol Amnest Rhyngwladol wedi beirniadu penderfyniad Sajid Javid.