Mae wyth person a chi wedi cael eu hachub o dân mewn tŷ yn Abertawe.

Cafodd chwe chriw o ddiffoddwyr tân eu hanfon i ddiffodd y tân ar Ffordd Brynmor, Uplands, ddydd Llun (Gorffennaf 23).

Mae pedwar o’r bobol a gafodd eu hachub wedi’u cludo i’r ysbyty.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, dechreuodd y tân tua 6.50yb ac roedd wedi’i ei ddiffodd erbyn 8.52yb.

Cafodd yr Heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu hanfon yno hefyd.