Mae heddlu sy’n ymchwilio i ymosodiad gwenwyn yn Salisbury, gam yn nes at ddod o hyd i’r bobol sy’n gyfrifol, yn ôl adroddiadau.
Cafodd y cyn-ysbïwr, Sergei Skripal, a’i ferch Yulia, eu darganfod yn anymwybodol yn y ddinas Seisnig honno ym mis Mawrth. Ac yn ôl yr awdurdodau, roedden nhw wedi’u gwenwyno â sylwedd o’r enw Novichok.
Mae’r pâr bellach wedi’u hanfon adref o’r ysbyty, ond mae ymchwiliad i’r achos yn parhau.
Yn ôl un ffynhonnell, mae’r ymchwilwyr llawer agosach at ddod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol, ac mae deunydd o gamerâu cylch cyfyng wedi taflu peth goleuni ar y sefyllfa.
Maen nhw’n credu mai unigolion o Rwsia oedd yn gyfrifol, meddai’r ffynhonnell wrth y Press Association.
Achos arall
Mae ymchwiliad hefyd ar droed i achos o wenwyno yn Amesbury.
Cafodd Charlie Rowley, 45, a’i bartner, Dawn Sturgess, 44, eu gwenwyno fis diwetha’, a bellach mae’r ddynes wedi marw.
Novichok oedd y deunydd a wenwynodd y rhain hefyd, ac mae heddlu yn credu bod yna gysylltiad ag achos Salisbury.