Mae coelcerthi dathliad ‘Y Deuddegfed’ yng Ngogledd Iwerddon yn broblem sydd wedi bod yn “tyfu” ers deng mlynedd, yn ôl ymgyrchydd o Belffast.
Dathliad o fuddugoliaeth William III (Pabydd) yn erbyn James II (Catholig) yw’r ‘Deuddegfed’, ar Orffennaf 12, ac yn ystod y digwyddiad mae Unoliaethwyr yn cynnau coelcerthi tal.
I aelodau’r Urddau Oren mae’r dathliad yn un diwylliannol ac yn gyfwerth â dathliad Guto Ffowc, ond i Weriniaethwyr a Phabyddion mae’r diwrnod yn ennyn ymateb tra gwahanol.
Ym marn Liam Andrews – ymgyrchydd tros y Wyddeleg sy’n byw ym Melffast ac sy’n siarad Cymraeg – mae’r coelcerthi yn symbol o wrthwynebiad i Babyddion, ac o “ormes”.
“Bob haf, mae yna wastad bosibiliad o drafferth tua’r unfed ar ddeg, deuddegfed [o Orffennaf],” meddai wrth golwg360.
“Mae hynny achos bod yr ŵyl, yn y bôn, yn wrth-Babyddol. Felly mae’r syniad o ddangos dicter a chasineb, ac eisiau brwydro, yn elfen o’r ŵyl yma.
“Sdim ots am yr ymdrechion i’w wneud yn rhywbeth diwylliannol sy’n perthyn i bawb – dyw e ddim yn perthyn i bawb.”
“Mynd o’r cof”
Mae Liam Andrews yn derbyn bod “rhai pethau wedi gwella” yng Ngogledd Iwerddon o ran y berthynas rhwng Pabyddion a Phrotestaniaid.
Ond mae’n pryderu bod y syniad bod pobol Babyddol yn “ddiwerth a pheryglus” o hyd yn “ffasiynol” ymhlith pobol sydd wedi’u magu yn nhraddodiad yr Urdd Oren.
Mae’n ategu bod Cymru wedi bod yn “wrth-babyddol iawn” yn ystod y 19eg ganrif, ond bod “lot o bethau sydd wedi mynd o’r cof yng Nghymru a Phrydain, sy’n dal i fod fan hyn.”