Mae Cyngor Caerdydd yn dweud na fyddan nhw’n talu’r un geiniog ychwanegol i’r Hen Lyfrgell, wedi i adroddiad argymell y dylai’r ganolfan Gymraeg gael mwy o arian.
Yn ôl y Cyngor, rhaid i’r Hen Lyfrgell “ddod yn hyfyw yn ariannol cyn y gall symud ymlaen”, sydd wedi profi’n dasg drafferthus i’r ganolfan hyd yma.
Cyngor Caerdydd sy’n berchen ar yr adeilad a Menter Caerdydd bu’n gyfrifol dros ddelifro’r £100,000 o incwm mewn rhent, ond mae’r Cyngor erbyn hyn wedi cymryd y cyfrifoldeb hwnnw.
Fe ddatgelodd golwg360 yr wythnos hon [dydd Mercher, Gorffennaf 11] fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £20,000 i Gyngor Caerdydd er mwyn ariannu adolygiad ar ddyfodol yr Hen Lyfrgell.
Mae’r adroddiad cyfrinachol sydd wedi dod i law golwg360 yn argymell nifer o newidiadau i’r ganolfan iaith, gan gynnwys rhoi mwy o arian iddi ond dyw e ddim yn mynd i fanylion ar faint.
Cafodd yr Hen Lyfrgell £400,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn ei hagor fel canolfan Gymraeg yng nghanol y brifddinas yn 2016, ond erbyn hyn mae’n mynnu “mai mater i Gyngor Caerdydd” yw’r ganolfan.
Ac mae Cyngor Caerdydd wedi dweud heddiw nad oes ganddyn nhw arian sbâr i roi cymhorthdal arall, gan ei fod yn wynebu “bwlch o £91 miliwn yn ei gyllideb dros y tair blynedd nesaf.”
Oedi cyn rhannu adroddiad cyfrinachol
Er i’r ymgynghorydd Philip Lay o gwmni PHL Ventures yng Nghaerdydd gwblhau ei adroddiad ar yr Hen Lyfrgell ddeg mis yn ôl ym mis Medi 2017, does dim symud wedi bod ar weithredu’r argymhellion.
Dydy Menter Caerdydd na’r grwpiau eraill ynghlwm â’r Hen Lyfrgell heb gyfarfod â Chyngor Caerdydd eto i drafod yr adroddiad, er bod y Fenter wedi gwneud cais am gyfarfod.
Yn ôl elusen yr Hen Lyfrgell, bu’n rhaid mynd at y Comisiynydd Gwybodaeth cyn bod y grwpiau perthnasol – Menter Caerdydd, yr Hen Lyfrgell Cyf ac elusen yr Hen Lyfrgell – yn cael gweld copi o’r adolygiad.
Doedd yr adroddiad ddim “wedi’i gwblhau i foddhad y cyngor”, meddai’r Cyngor, a bod hyn wedi arwain at oedi cyn rhannu ond bod y “sefydliadau partner” wedi gweld y ddogfen cyn cafodd y cais Rhyddid Gwybodaeth ei gyflwyno.
Datganiad Cyngor Caerdydd
“Er bod y Cyngor yn gefnogol iawn o’r Hen Lyfrgell Cyf, nodwyd yn hollol glir yn 2015, pan ddechreuodd y trafodaethau, nad oeddem mewn sefyllfa i roi cymhorthdal i’r fenter,” meddai llefarydd.
“Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu bwlch o £91m yn ei gyllideb dros y tair blynedd nesaf ac mae hynny ar ben y £145m o arbedion a sicrhawyd dros y pum mlynedd diwethaf.
“Mae’n rhaid i’r Hen Lyfrgell ddod yn hyfyw yn ariannol cyn y gall symud ymlaen. Yn anffodus, nid yw’r disgwyliadau o ran y rhenti wedi’u bodloni hyd yma, ac mae’r Cyngor wedi cymryd yr awenau er mwyn helpu Menter Caerdydd a’r Hen Lyfrgell Cyf i ganolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy.
“O ran adroddiad Philip Lay, pan ddaeth hwnnw i law’r cyngor ym mis Medi 2017 nid oedd wedi’i gwblhau i foddhad y cyngor, gan nad oedd yn cynnwys cwmpas llawn y comisiwn.
“Arweiniodd y broblem hon at oedi byr wrth rannu’r adroddiad gyda sefydliadau partner. Fodd bynnag, roedd Menter Caerdydd a’r Hen Lyfrgell Cyf wedi cael copi o’r adroddiad erbyn Tachwedd 15, 2017.
“Cyflwynwyd cais Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am yr adroddiad, ond nid oedd gan hwnnw unrhyw beth i’w wneud ag unrhyw oedi mewn cysylltiad â rhannu’r adroddiad gyda’n sefydliadau partner a oedd eisoes wedi cael copi ohono cyn i’r cais Rhyddid Gwybodaeth ddod i law.
“Mae’r Cyngor wedi ystyried argymhellion yr adroddiad ac maent yn cael eu defnyddio i gynorthwyo â’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt â phartneriaid.
“Mae pawb am weld yr Hen Lyfrgell yn ffynnu, ond fydd y Cyngor ddim ond yn derbyn unrhyw un o’r argymhellion ar y sail na fydd y Ganolfan angen unrhyw gymhorthdal ariannol o gwbwl, ac yn ddiweddar iawn sicrhau hyfywedd ariannol yw’r pryder mwyaf.”