Mae’r Ysgrifennydd Brexit newydd, Dominic Raab, wedi dweud bod y cynlluniau Brexit newydd sydd wedi’u paratoi gan Lywodraeth Prydain yn “parchu” canlyniad y refferendwm ddwy flynedd yn ôl.
Mae disgwyl i’r Papur Gwyn ar Brexit gael ei gyflwyno gerbron Aelodau Seneddol yn San Steffan heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 12).
Dyma’r cynlluniau sydd wedi achosi ffrae o fewn Cabinet Theresa May, a welodd ddau o’i aelodau blaenllaw, sef David Davis a Boris Johnson, yn ymddiswyddo ddechrau’r wythnos.
Mae Dominic Raab, mewn rhagair i’r ddogfen sy’n amlinellu’r cynlluniau, yn dweud y bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i fasnachu’n “ddi-rwystr” â’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit, ac yr un pryd yn gosod ei thollau ei hun ar gyfer masnachu â gweddill y byd.
Mae hefyd yn mynnu bod y cynlluniau yn cynnwys ymrwymiad i Iwerddon a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau na fydd yna ffin ‘galed’ rhwng y ddwy wlad.
Rhybudd o Frwsel
Yn y cyfamser, mae Michel Barnier, pennaeth y trafodaethau ar Brexit ym Mrwsel, wedi cynnig rhybudd i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, gan ddweud bod angen i’r cynlluniau fod yn rhai “addas” a fydd yn osgoi sefyllfa ‘dim cytundeb’.
Mewn cyfarfod rhyngddo ag arweinwyr busnes o’r Unol Daleithiau, dywedodd fod angen i’r cynlluniau gyd-fynd â rheolau’r Undeb Ewropeaidd, gan osgoi unrhyw gostau ychwanegol.
‘Dim cydymffurfio – dim cytundeb’
“Dim ond y cyfuniad o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau fydd yn gwneud masnach ‘ddi-rwystr’ yn bosib,” meddai Michel Barnier.
“Y tu allan i’r Undeb Tollau, mae angen trefniadau a rheoliadau.
“A’r tu allan i’r Farchnad Sengl, mae’n hanfodol bod gennych reoliadau sy’n cyd-fynd â safonau Ewropeaidd.
“O ganlyniad, ni fydd hi’n ‘busines as usual’ oherwydd Brexit. Ac fe ddylem ni i gyd baratoi ar gyfer pob sefyllfa, gan gynnwys sefyllfa ‘dim cytundeb’.”