Mae heddlu’r Alban wedi dod o hyd i gorff merch chwe blwydd oed yn Rothesay ar Ynys Bute.

Cafodd swyddogion wybod bod y ferch wedi mynd ar goll o’i chartref am 6.25yb ddydd Llun (Gorffennaf 2).

Ac am 9yb mi ddaethon nhw o hyd i’w chorff mewn coedwig ger safle hen westy, y Cames Hydro Hotel.

“Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio, ac rydym wrthi’n cynnal ymholiadau er mwyn darganfod beth yn union ddigwyddodd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Alban.