Fe ydd y cwmni ceir, Rolls Royce, yn cael gwared â thua 4,600 o swyddi o fewn y ddwy flynedd nesa’.
Mae Rolls Royce wedi cymryd y penderfyniad hwn wrth iddyn nhw geisio ailstrwythuro’r cwmni a gwneud arbedion o £400m y flwyddyn mewn costau.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y colledion hyn mewn swyddi yn effeithio’r gweithlu yng ngwledydd Prydain, gyda thua traean o’r 4,600 yn mynd cyn diwedd 2018.
Daw’r cyhoeddiad hwn ychydig fisoedd ar ôl i’r cwmni ddweud y byddan nhw’n lleihau’r nifer o ganolfannau sydd ganddyn nhw yng ngwledydd Prydain o bump i dri.
Yn ôl prif weithredwr Rolls Royce, Warren East, maen nhw wedi cymryd y camau diweddara’ hyn er mwyn creu sefydliad masnachol sy’n “arwain y byd”.