Mi fydd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn “cerdded i ffwrdd” os na fydd yn cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru ar ôl etholiad 2021, meddai mewn cyfweliad â’r BBC.
Mae Leanne Wood wedi cadarnhau wrth na fydd hi’n aros yn arweinydd y blaid pe bai hi’n colli’r etholiad ymhen tair blynedd.
Mae wedi bod yn arweinydd ers 2012, a does neb o aelodau ei phlaid ei hun wedi ei herio hyd yn hyn.
Cefnogaeth aelodau cyffredin
Mae nifer o fewn a thu allan i Blaid Cymru wedi codi cwestiynau ers tro ynglŷn â’r ffaith bod Leanne Wood yn parhau’n arweinydd – heb iddi wneud cynnydd mawr mewn etholiadau.
Ond er bod yr arweinydd ei hun yn dweud bod yna “leiafrif” o fewn ei phlaid sydd eisiau “trywydd gwahanol”, mae’n dweud bod ganddi fandad yr “aelodau cyffredin” i aros yn y swydd.
Dywed hefyd ei bod eisoes wedi cynnal trafodaethau gydag aelodau, ond dyw hi ddim yn fodlon ymhelaethu ar yr hyn a gafodd ei ddweud yn y cyfarfodydd hynny.