Fe fu’n rhaid i RSPCA Cymru achub mwy o anifeiliaid llynedd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Cafodd 8,220 o anifeiliaid eu hachub gan yr elusen yn 2017, sy’n gynnydd o 7.6% o gymharu â 2016, ac sy’n gyfystyr â 23 anifail bob diwrnod.
Ymhlith yr anifeiliaid yma yr oedd anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a chreaduriaid gwyllt – cafodd 4,919 o’r rheiny eu hachub.
Daw’r ffigurau newydd yma o Grynodeb Flynyddol RSPCA i Gymru, a gallwch weld rhagor ohonyn nhw islaw.
Ffigurau
- Bu ymchwiliadau i 10,176 o gwynion am greulondeb
- Cafodd 2,140 anifail eu hailgartrefu
- Cafodd 7,745 cath eu hysbaddu
“Eithriadol o brysur”
“Roedd 2017 yn flwyddyn eithriadol o brysur i’r RSPCA yng Nghymru,” meddai Martyn Hubbard, Uwch-arolygydd RSPCA Cymru.
“Mae gwaith arolygiaeth yr RSPCA yn amhrisiadwy, diflino a’n ddiddiwedd.
“Ac rydyn ni wedi llwyddo i achub, ar gyfartaledd, 23 anifail bob dydd yng Nghymru – er gwaetha’r ffaith mai ychydig iawn o swyddogion sydd ganddon ni.”